**************
Cefnogwch Ymgyrch Tenovus 'Bucket for Boobs'
A wnewch chi ddangos eich cefnogaeth ar gyfer cleifion Cancr y Fron yng Nghymru?
Cynhleir y 'Bucket for Boobs' ym mis Hydref a gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn helpu mwy o bobl yr effeithir arnynt gan ganser y fron yng Nghymru.
Cyfrannwch eich amser drwy gofrestru fel Cydlynydd Casglu yn ein 'Bucket for Boobs' ar gyfer casgliadau a helpu i wneud gwahaniaeth go iawn!
Cofrestrwch heddiw - Ffoniwch 029 2076 8863 neu ewch i:
tenovus.org.uk/bucketforboobs
********
Gofalwyr
gwirfoddol yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim
Bydd pobl sy’n
cynnig gofal yn wirfoddol yn gymwys i gael y brechlyn ffliw tymhorol am ddim yr
hydref hwn.
Mae’r newid yn
effeithio ar yr unigolion hynny sy’n gwirfoddoli ac nad ydynt yn cael eu talu i
ddarparu gofal cyson i un neu fwy o bobl oedrannus, anabl neu fregus fel rhan o
sefydliad.
Gallai gofalwr
sydd â’r ffliw basio’r haint i rywun yn ei ofal, gan beryglu ei les, gan fod
pobl hŷn a’r rheini sydd eisoes â chyflyrau iechyd yn fwy tueddol i ddioddef o
gymhlethdodau’r ffliw.
Gall gwirfoddolwyr
sy’n gweithio ym maes gofalu ar ran sefydliad gael y brechlyn trwy fynd â
llythyr gan eu sefydliad yn cadarnhau eu cymhwyster at eu meddyg teulu.
Mae pobl sy’n
gofalu’n wirfoddol ond heb fod yn rhan o sefydliad - er enghraifft y rheini
sy’n gofalu am berthynas neu ffrind - hefyd yn gymwys ar gyfer brechiad dim ond
iddynt ddweud wrth eu meddyg teulu eu bod yn ofalwyr.
Yn ogystal â
gofalwyr, cynigir brechiad am ddim yn erbyn ffliw tymhorol yng Nghymru i bobl
65 oed ac hŷn, pobl â chyflyrau iechyd sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o
ddioddef cymhlethdodau o’r ffliw, gweithwyr iechyd rheng flaen a menywod
beichiog. Argymhellir brechu gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n dod i gysylltiad
uniongyrchol â chleientiaid rhag y ffliw hefyd, a chyfrifoldeb y cyflogwr yw
darparu hyn.
Mae plant sy’n
ddwy, tair a phedair oed, a’r rheini ym mlwyddyn ysgol 7, hefyd yn gymwys i
gael y brechlyn ffliw a chwistrellir yn y
trwyn.
Symptomau nodweddiadol y ffliw, y maent fel arfer yn
dechrau’n sydyn, yw twymyn, teimlo’n
oer, pen tost, peswch, gwynegon a blinder. Lledaenir y firws ffliw fel arfer yn
y diferion bach o boer sy’n cael eu peswch neu disian i’r atmosffer gan berson
sydd wedi’i heintio. Gall cyswllt uniongyrchol â dwylo sydd wedi’u heintio â’r
firws ledu’r haint hefyd.
Gall pobl â
symptomau’r ffliw nad oes ganddynt gyflyrau iechyd eraill drin eu hunain
gartref gyda meddyginiaethau dros y cownter a dylent gyfyngu ar gyswllt â phobl
eraill er mwyn osgoi lledu’r haint.
Dylai unrhyw un
sy’n pryderu am ei iechyd gysylltu â’i feddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar
0845 46 47.
Mae rhagor o
wybodaeth am y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/43745
************
Gweler isod fanylion am gyllid craidd a hyfforddiant am ddim i elusennau sy'n ymnweud ag iechyd
2015 GSK IMPACT
Awards - Core
funding and free training for health charities
GSK’s IMPACT Awards reward
charities that are doing excellent work to improve people’s health.
Organisations must be at least three years old, working in a health-related
field in the UK, with income between £25,000 and
£2 million. Up to 20 awards will
be made ranging from £3,000 to
£40,000 plus free training valued
at up to £6,000. Organisations
will also have a film made, receive help with press and publicity and be given a
set of promotional materials.
To apply or to view winners’ films
go to: www.kingsfund.org.uk/gskimpactawards
Closing date: 19 September 2014
*************
Gwahoddir chi i arddangosfa ffotograffig a derbyniad min nos fel rhan o'n gwaith i wella gofal dementia yn ein hysbytai - Dydd Llun 22ain Medi, 6.30pm – prif gyntedd, Ysbyty Gwynedd
Mae BIPBC mewn partneriaeth â Chymdeithas Ffotograffig Gogledd Cymru (NWPA) yn cynnal yr arddangosfa ffotograffig hon o ffotograffau tirweddau lleol yng Ngogledd Cymru. Profwyd bod hyn yn helpu â synnwyr cyfeiriad, ar gyfer cleifion sy'n cael eu derbyn i wardiau cyffredinol, ac sydd â dementia. Bydd yr arddangosfa'n cynnwys mwy na 100 o ffotograffau sydd wedi cael eu rhoi yn garedig gan aelodau NWPA, yn ogystal â cheisiadau ein cystadleuaeth staff, a bydd staff y ward yn gallu dewis y lluniau maent yn dymuno eu harddangos yn eu hardaloedd ward.
Bydd enillydd y gystadleuaeth staff yn cael ei gyhoeddi/chyhoeddi yn y digwyddiad a bydd cyfle i fwynhau lluniaeth a chymryd rhan mewn raffl i godi arian ar gyfer y gronfa dementia i barhau â'r gwaith sydd ar y gweill i wella gofal dementia.
Buasem wrth ein bodd petaech yn gallu ymuno â ni a chefnogi'r digwyddiad pwysig hwn. A fyddech cystal â chofrestru eich presenoldeb erbyn dydd Mercher 17eg Medi trwy;
Claire.Brennan@wales.nhs.uk / 01248 384384 est 5623
****
Cliciwch ar y linciau isod i weld taflenni
gwybodaeth Canllawiau Gwrth-Fwlio a phosteri yn cynnig cyngor i rieni, gofalwyr
a phlant ar beth i’w wneud os yw plentyn yn cael ei fwlio.
***********
Annog grwpiau cymunedol i
ymgeisio am arian
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio er mwyn taro troseddwyr lle
mae’n eu brifo fwyaf – yn eu pocedi – a hynny er mwyn helpu grwpiau cymunedol
yng Ngogledd Cymru.
Bydd arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er
mwyn creu cronfa o arian a fydd ar gael i sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol ac sy’n brwydro yn erbyn trosedd ac anrhefn.
Yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus y llynedd mae’r cynllun yn cael
ei sefydlu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick CB
QC, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned
(PACT).
Bydd cyfanswm o £42,000 ar gael gyda £3,000 yr un ar gyfer dau
grŵp ym mhob sir a £6,000 ar gael i grŵp sy’n gweithredu ledled Gogledd Cymru.
Mae’r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis – y cyfeirir ati fel y
Gronfa Cyllideb Cyfranogol yn cael ei hariannu’n rhannol gan yr arian sy’n cael
ei adfer drwy’r Ddeddf Elw Trosedd gan ddefnyddio arian sy’n cael ei atafaelu
gan droseddwyr gyda’r gweddill yn dod gan y Comisiynydd.
Mae grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymgeisio rhwng 8 Medi
a 10 Hydref drwy ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael ar wefan Heddlu Gogledd
Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Mae’r
ffurflen gais ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru drwy’r linc yma http://www.north-wales.police.uk/news__appeals/latest_news/participatory_budgeting_scheme.aspx?lang=cy-gb
Y
dyddiad cyntaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Llun yr 8fed o Fedi. Dyddiad
cau y cynllun yw 5pm ar y 10fed o Hydref.
Rhaid
i ymgeiswyr fod yn sefydliadau gwirfoddol, yn grŵp cymunedol neu elusen sy’n
gweithio yng Ngogledd Cymru. Ni dderbynnir ceisiadau gan gyrff sector gyhoeddus.
*************************

|

Gofynnir
byth a hefyd i’r trydydd sector wneud mwy a mwy, ond gofynnir i ni wneud hyn â
llai a llai o gyllid – a cheir cryn gystadlu am yr arian sydd ar
gael. Dyma
lle daw gynhadledd gyllido trydydd sector Cymru iddi. Byddwn yn edrych ar ffyrdd
y gallwn gynorthwyo’ch grŵp i wella ceisiadau am gyllid, p’un ai ydych yn codi
arian o ymddiriedolaethau, busnesau, y Gronfa Loteri Fawr, Ewrop neu’n ceisio
dod o hyd i ffordd newydd o gynyddu rhoddion gan eich cefnogwyr. Byddwn
yn clywed gan Michael Norton OBE, ‘entrepreneur cymdeithasol wrth reddf’, ar
godi arian yn arloesol, Paul Streets o Sefydliad Lloyds Bank a fydd yn edrych ar
yr heriau a wynebir gan y grwpiau maent yn eu cyllido a Simi Epstein o Hosbis
Plant Tŷ Gobaith a fydd yn dangos y ffordd maent wedi newid ffocws eu
hymdrechion codi arian i wella eu ceisiadau. A cheir detholiad o 22 o
weithdai ar y canlynol:
- Codi
arian yn ddigidol
- Gwella’ch
cais i’r Gronfa Loteri Fawr
- Codi
arian torfol
- Gofyn
i fusnesau am gymorth
- Cydweithio
- Mesur
a chyfathrebu effaith
A
llawer mwy ar ben hynny. Os ydych yn ddi-hyder wrth fynd at ddarpar
gyllidwyr, dyma lle gallwch ddysgu i dynnu sylw at eich cais ymysg ceisiadau
eraill.
Darllenwch y rhaglen lawn a chadw lle
yma. | |
*************
Holiadur CCTV Ynys Môn
Gweler isod linc ar gyfer yr holiadur ar farn y cyhoedd ar CCTV yr Ynys. Gofynnwyd i CAB gan y Bwrdd (sy'n cynnwys Cynghorau Tref, Awdurdod Lleol, Swyddogion Diogelwch Cymunedol a Heddlu Gogledd Cymru) i ddarparu holiadur annibynnol o farn ein trigolion.
surveymonkey.com/s/moncctv
******************
Ynglŷn ag: Anghydraddoldeb,
gwahaniaethu a greddf am degwch.
‘Mae cydraddoldeb yn ymwneud
â sicrhau fod cyfle cyfartal gan bawb i wneud y gorau o'i fywyd a'i ddoniau.
Mae a wnelo fo hefyd â’r gred na ddylai neb fod â llai o gyfleoedd mewn bywyd
oherwydd ble cafodd ei eni, beth neu bwy oedd pan gafodd ei eni, yr hyn mae’n
credu ynddo neu unrhyw anabledd sydd ganddo. Mae’r maes cydraddoldeb yn
cydnabod fod rhai grwpiau o bobl sydd â nodweddion penodol, e.e. hil, anabledd,
rhyw a rhywioldeb, wedi wynebu gwahaniaethu yn hanesyddol’ (Y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)
Dros y 15
mlynedd ddiwethaf bu Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru, a esblygodd
maes o law yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN), yn
gweithio i ddileu gwahaniaethu a datblygu cymdeithas fwy cyfartal lle mae llai
o ragfarnu.
Yn sgil y newidiadau a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb newydd,
mae ystyr ehangach i gydraddoldeb bellach. Yn hyn o beth, mae’n amhosib i
unrhyw sefydliad unigol feddu ar ddigon o wybodaeth a phrofiad i wneud
cyfiawnder â'r naw maes cydraddoldeb (nodweddion gwarchodedig) sy’n rhan o’r
Ddeddf.
Ni all NWREN frwydro dros holl amrywiaeth y meysydd hyn ar ei ben ei
hun. Mae ystod anhygoel o
arbenigedd eisoes yn bodoli yn y sector
gwirfoddol, a gellir cyflawni llawer mwy drwy gydweithio. Ni all un sefydliad yn gweithio ar ei ben ei
hun fyth lwyddo i gael y gwerth ychwanegol hwnnw a ddaw yn sgil cydweithio.
Mae Cronfa’r Loteri Fawr yn ariannu prosiect aml haenog o’r enw ‘Pobl a
Lleoedd’. Bydd yr arian yn caniatáu i
NWREN wneud ei swyddfeydd yn fwy
hygyrch; cyflogi gweithwyr cymorth i helpu pobl sy’n dioddef rhagfarn; cyflogi
swyddogion i helpu dioddefwyr troseddau casineb a datblygu fforwm i sector gwirfoddol Gogledd Cymru. Y nod yw sefydlu partneriaethau cryf a chynaliadwy ar draws Gogledd
Cymru erbyn diwedd y prosiect. Trwy fynd i’r afael â
gwahaniaethu, cydweithio i gael arian a thynnu ar arbenigedd ein gilydd, rydym
yn gobeithio rhoi terfyn ar ragfarnu a gwahaniaethu sy’n gallu achosi niwed parhaol
ar adegau.
Diolch
i arian Cronfa’r Loteri Fawr, mae gan NWREN y gallu a’r cyfle bellach i
wireddu'r fenter hon. Mae angen i sefydliadau o
bob math gydymdrechu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Rhagwelir
y bydd y Prosiect hwn yn rhoi llais cryfach i sefydliadau’r Trydydd Sector yng
Ngogledd Cymru, ac yn bwysicach na hynny, yn grymuso’r bobl y caiff eu
'lleisiau' eu diystyru. Yn anuniongyrchol, bydd hefyd yn darparu tystiolaeth
o’r 'bylchau' yn y gwasanaethau a gynigir i’r bobl hynny sydd ar gyrion eithaf
cymdeithas yma yng Ngogledd Cymru. Cefnogwch y fenter bwysig hon
os gwelwch yn dda.
Gyda hyn oll mewn golwg a fyddai’n bosib i chi roi munud neu ddau i lenwi’r
bonyn ymateb sydd wedi’i gynnwys gyda’r llythyr hwn a'i ddychwelyd at Susan Jones yn NWREN naill ai
trwy e-bostio Susan@nwren.org neu, os yw’n
well gennych, trwy ei bostio i'r cyfeiriad ar y bonyn ymateb.
Enw eich sefydliad: -
Eich swydd yn y sefydliad: -
Manylion cyswllt:-
Gwasanaethau a ddarperir ac ym mha ardal -
Meini prawf ar gyfer cyfeirio cleient/defnyddiwr
gwasanaeth:-
Os gwyddoch chi ddyddiad terfynu’r gwasanaeth,
nodwch y dyddiad os gwelwch yn dda: -
Diddordeb mewn cydweithio:
Diddoreb, ond angen mwy o wybodaeth: Oes/Na
Fe hoffwn i drefnu cyfarfod ? Hoffwn/Na hoffwn
Dychwelwch at Susan Jones naill ai trwy bostio’r
ffurflen hon at NWREN, y Ganolfan Gydraddoldeb, Ffordd Bangor, Penmaenmawr,
Conwy LL34 6LF neu ei he-bostio at: susan@nwren.org
Rhif ffôn 01492 622233; Symudol: 07825440781.
*************************
Dydd Rhannu Sgiliau yn yr Ardd Goedwig Bangor
Pryd: Dydd Sul 13 Gorffennaf 11yb - 4yp
Lle: Gardd Goedwig Bangor
Mwy o wybodaeth http://www.farmgarden.org.uk/events/wales-events/bfg-skillshare--dydd-rhannu-sgiliau?view=Events
************************
Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020 -
DIGWYDDIAD HANNER
DIWRNOD AM DDIM
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
***********************
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Cymru 2014 – mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn!
Ydym, rydym yn rhoi diwrnod neu ddau ychwanegol i chi gyflwyno eich
enwebiadau ar gyfer Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru 2014. Yn hytrach na dydd Gwener,
y dyddiad cau newydd yw 5pm ddydd Iau 17
Ebrill 2014, felly gallwch gyflwyno eich enwebiad cyn dechrau gwyliau'r
Pasg.
Rydyn ni’n sicr eich bod yn gwybod am grŵp neu unigolyn teilwng sy’n haeddu
cael ei gydnabod gan weddill y sector. Dim ond i’ch atgoffa, dyma’r categorïau.
1)
Oedolyn – unrhyw wirfoddolwr sy’n 25 oed neu’n hŷn
2)
Person ifanc – unrhyw wirfoddolwr sydd o dan 25
oed
3)
Gwirfoddolwr gwyrdd – unrhyw un sy’n gwirfoddoli
gyda mudiad neu brosiect amgylcheddol
4)
Ymddiriedolwr – ar gyfer unrhyw ymddiriedolwr,
wrth gwrs
5)
Grŵp
– ar gyfer dau neu fwy o bobl, boed yn grŵp anffurfiol neu’n un sydd wedi’i gyfansoddi’n
ffurfiol.
6)
Rhyngwladol – yn newydd ar gyfer 2014, unrhyw un
sydd wedi gwirfoddoli gyda phartneriaid neu fudiadau rhyngwladol yng Nghymru.
Mae pawb sy’n cael ei
enwebu yn cael tystysgrif canmoliaeth, tra bydd yr enillwyr – hyd at dri ym
mhob categori – yn cael gwahoddiad i seremoni wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd
fis Mehefin.
Peidiwch ag oedi. Penderfynwch pwy sy’n haeddu gwobr ac ewch ati i enwebu
heddiw. Cewch wybod sut
mae gwneud hynny yma.
****************
Amser I Siarad
Mae Mind Ynys Môn a Gwynedd yn cychwyn
gwasanaeth newydd iechyd meddwl a lles
y mis yma o’r enw Amser i Siarad. Mae’r
gwasanaeth yn rhoi y cyfle i chi:
• I siarad
• I gael gwybodaeth
• Gael cefnogaeth un i un
Dewch draw – mae’n wasanaeth cyfeillgar,
cyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.
Byddwn ar gael yn y lleoliadau canlynol ar y
dyddiadau a’r amseroedd a benodwyd:
Llangefni, ASDA
8 Ebrill, 6 Mai, 3 Mehefin; 10yb-4yh
Caergybi, Canolfan JE O’Toole
10 Ebrill, 8 Mai, 5 Mehefin; 10yb-4yh
Pwllheli, ADSA
8 Ebrill, 15 Mai, 10 Mehefin; 12-4yh
Bangor, ASDA
9 Ebrill, 14 Mai, 11 Mehefin; 10yb-4yh
Am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad,
gallwch gysylltu â ni trwy ebost neu ar y ffôn
ar
Ebost: info@monagwyneddmind.co.uk
Ffôn: 01286 685279
******************
Rhifyn 4 - Gwneud y Cysylltiadau
Cliciwch yma i ddarllen rhifyn 4 o 8 o Gwneud y Cysylltiadau.
**********************
Mae Cruse Bereavement Care Cymru Gofal Mewn Galar yn gwahodd unigolion sydd â diddordeb ac sydd â sgiliau cymunedol ac arweinyddiaeth strategol a phrofiad ariannol i ymuno gyda Phwyllgor Ardal Gogledd Cymru fel Is-Drysorydd.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol am rôl Is-Drysorydd y Pwyllgor Rheoli, cysylltwch gyda Trish ar 0844 561 7856 i drefnu galwad yn ôl gan ein Cadeirydd presennol.
Llinell Gymorth Genedlaethol: 0844 477 9400 E-bost: helpline@cruse.org.uk
Gwefan: www.crusebereavementcare.org.uk www.rd4u.org.uk
**********************
Crimebeat Gogledd Cymru
Galw ar bobl ifanc
Gogledd Cymru!
Hoffech
chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? A oes gennych chi syniad da am brosiect
atal trosedd fyddai'n helpu eich cymuned i fod yn ardal fwy diogel i fyw ynddi?
Os
felly, hoffem glywed gennych.
Mae
Trechu Trosedd eisiau cefnogi grwpiau ieuenctid rhwng 5 a 25 oed drwy roi
grantiau o hyd at £500 iddynt i’w helpu wireddu eu syniad.
· Meddyliwch am broblem, megis bwlio, fandaliaeth, graffiti neu unrhyw
fater cymunedol arall a gweithgaredd fyddai’n helpu i’w leihau
· Cwblhewch ein ffurflen gais syml
· Anfonwch eich cais drwy ebost at: enquiries@crimebeatnorthwales.co.uk
Bydd Pwyllgor yr Uwch Siryfion yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi os
ydych yn llwyddiannus.
Os
ydych yn llwyddiannus yna bydd i fyny i chi wneud i’ch prosiect weithio.
Mae
rhagor o wybodaeth am Trechu Trosedd ar gael ar ein gwefan www.crimebeatnorthwales.co.uk
************************************************
Sesiynau Galw Heibio OpenLearn RHAD AC AM DDIM mewn llyfrgelloedd Ynys Môn yn
dod i fyny yr wythnos nesaf - (rhan o'r prosiect Ymestyn yn Ehangach yng Ngogledd Cymru)
Llyfrgell Amlwch - Dydd Mercher 12 Chwefror
10am-1pm
Llyfrgell Caergybi - Dydd Iau 13
Chwefror 11am-1pm
Llyfrgell Llangefni - Dydd Iau 13
Chwefror 2pm- 4pm
**************************************************
DYDDIAD I’W NODI: 3 Mawrth
2014
Cynhadledd Cefnogi
Dioddefwyr
10am – 4pm | Venue Cymru,
Llandudno
Mae
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick, yn cynnal
cynhadledd i drafod y Cod Ymarfer newydd ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yn ogystal
â chomisiynu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr yng ngogledd
Cymru.
Bydd y gynhadledd hon o ddiddordeb i
sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat sydd â diddordeb mewn cefnogi
dioddefwyr trosedd yng ngogledd Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau,
ebostiwch OPCC@nthwales.pnn.police.uk neu ffonio 01492 805486. |
********************************************************************************
Dyslecsia Cymru angen gwirfoddolwyr
Oes gennych chi ychydig o oriau'n rhydd bob mis? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ein gwaith gydag unigolion â dyslecsia yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i’r elusen a byddem yn croesawi
cefnogaeth ar gyfer gwaith swyddfa a llinell rhadffôn. Mae’r linell rhadffôn yn cynnig cyngor a
chyfeiriad i bawb sy’n poeni am ddyslecsia – yn yr ysgol, coleg neu mewn
cyflogaeth. Gallwch fod yn wirfoddolwr llinell gymorth o gysur eich cartref eich
hun! Y cyfan a ofynnwn yw bod gennych fynediad
i ffôn ac yn barod i ymrwymo i amser penodol.
Byddwn yn eich hyfforddi ar ymwybyddiaeth o ddyslecsia a sgiliau ffôn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
ni: Enquiries@walesdyslexia .org.uk 0808 1800 110
******************************************************************************
Busnes
Cymru Tendro - Digwyddiadau a Gweithdai
Mae Busnes Cymru’n
cynnal nifer o weithdai sydd wedi’u teilwra ar gyfer busnesau sydd am ddechrau
neu wella’r ffordd y maent yn cyflwyno tendr am contract.
Sut
i Dendro - Rhagarweiniol - Mae’r
gweithdy hwn yn addas ar gyfer unrhyw fusnes sydd â diddordeb mewn gwerthu
nwyddau, cynhyrchion neu wasanaethau i sefydliadau sy’n cael eu hariannu’n
gyhoeddus ac sy’n newydd i’r broses o gyflwyno
tendr.
Er
mwyn archebu lle ffoniwch 03000 6 03000 os gwelwch yn
dda.
Bangor 11 Chwefror
2014 9yb - 1yh
Yr
Wyddgrug 11 Chwefror 2014 9yb -1yh
Wrecsam 27 Chwefror 2014 9yb -
1yh
Bala
18 Mawrth 2014 9yb - 1yh
Sut I Dendro –
Uwch - Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at
fusnesau sydd eisoes â rhywfaint o brofiad o’r broses tendro. Bydd y gweithdy
hwn yn cynorthwyo cynrychiolwyr sy'n dymuno cynyddu lefel dealltwriaeth a gwella
sgiliau sydd eu hangen i lunio eu cais tendr gorau
posibl.
Llanfairpwll 4 Chwefror 2014
9yb-1yh
Cyffordd Llandudno 13 Chwefror 2014
9yb-1yh
Dolgellau 27 Mawrth 2014 9yb
-1yh
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth pwrpasol sy'n
darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth uniongyrchol gan y sector preifat,
cyhoeddus a'r trydydd sector I fusnesau.
Gellir defnyddio’r gwasanaeth dros y
ffôn, ar-lein a thrwy rwydwaith o unarddeg o siopau un stop o amgylch Cymru. Am
fwy o wybodaeth ffoniwch 03000 6 03000. | |
*********************************************************
Dangoswch ychydig o gariad at Gymru ar Ddydd Santes Dwynwen eleni, trwy roi rhodd i’r Gronfa i Gymru
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
***************************************
Hyfforddiant WCVA - Mawrth 2014
Cliciwch yma am fanylion hyfforddiant WCVA Mawrth 2014.
***************************************
Rhaglen Gweithgareddau Cymunedol – cynllun grant ar gyfer prosiectau gwella cyfalaf cymunedol a arweinir gan y gymuned
Cliciwch yma i lawrlwytho manylion am y cynllun grant (yn y Saesneg).
Cliciwch yma i lawrlwytho cwestiynau a ofynnir yn aml am y cynllun (yn y Saesneg).
*************************************
Y Cynllun Heddlu a Throsedd - Ail Alwad am
Dystiolaeth
Bydd yr ail
alwad hwn yn dystiolaeth yn hysbysu’r adolygiad blynyddol o’r Cynllun Heddlu a
Throsedd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu anghenion ein
cymunedau. Rwyf eisiau clywed oddi wrth bobl o bob oed a chefndir ym mhob
rhan o ogledd Cymru.
Gallwch
gyflwyno eich safbwyntiau drwy gyfrwng fy ngwefan http://www.northwales-pcc.gov.uk.
Fel arall gallwch anfon e-bost i’m swyddfa OPCC@nthwales.pnn.police.uk
neu ysgrifennu ataf yn: Glan-Y-Don, Bae Colwyn, LL29 8AW. Fel arall
gallwch lenwi’r ffurflen sydd ynghlwm.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn sylwadau yw 10
Ionawr 2014.
Digwyddiad: Cynhadledd Atal Masnachu Dynol Gogledd Orllewin Cymru
Dyddiad: 22ain Ionawr, 2014
Lleoliad: Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd
Amseroedd: 8.45am cofrestru, 09.15 am dechrau - 1.30 pm cinio a chau
Côst: Am ddim (ffi canslo yw £35 ar ôl 9/1/14)
***********************************************************
Cylchlythyr Datblygu Economaidd
- Tachwedd 2013
Mae
cylchlythyr Datblygu Economaidd Tachwedd 2013 yn awr ar wefan Cyngor Sir
Ynys Môn www.ynysmon.gov.uk/cylchlythyrdatecon
Fe fydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi yn gyson i ddiweddaru preswylwyr
a busnesau ar weithgareddau sydd ar y gweill ar Ynys Môn gan ddefnyddio
technoleg fodern.
*********************************************************
Cyfle ariannu Tyfu’n
Wyllt
Ydych chi’n grŵp
cymunedol? A oes safle yn eich hardal leol chi sydd angen ei harddu? A fyddai
£500 – £5,000 yn eich helpu i’w wneud yn agored i’r gymuned ehangach, yn gwbl
weladwy ac yn ysbrydoledig? Os felly, ymwelwch â www.growwilduk.com i ddysgu
mwy.
Mae Tyfu’n Wyllt yn
anelu i ddod â phobl a chymunedau ynghyd ar draws y DU er mwyn gwneud
gwahaniaeth i ble rydym yn byw, trwy hau blodau gwyllt brodorol y DU. Mae hwn yn
brosiect uchelgeisiol dros bedair blynedd dan arweiniad Gerddi Botaneg
Brenhinol, Kew ac wedi ei ariannu gan y Gronfa
Loteri Fawr. Rydym yn anelu’n benodol i gynnwys ac ysbrydoli pobl ifainc rhwng
12 – 25 mlwydd oed, trwy weithgarwch cymunedol cadarnhaol a chwbl
weddnewidiadol. Maria Golightly, Rheolwraig Partneriaeth Tyfu’n Wyllt (Cymru)
m.golightly@kew.org
************************************************************
Gweithdy Materion Iechyd Meddwl
Cyflwynir
gan Sophie Gorst o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc:
Dydd Mawrth 21 Ionawr, Conwy
Dydd Mawrth 18 Mawrth, Sir Ddinbych
Cliciwch
yma am fwy o wybodaeth a ffurflen archebu.
Parhad a Newid –
Datganiad y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar ddyfodol ariannu Cynghorau Gwirfoddol
Sirol drwy Gymru:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2013/?skip=1&lang=cy
************************************************************
Mae Age
Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £ 200 ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol y geaf
yma
Drwy gyllid gan Age Cymru, mae grantiau o hyd at £200
ar gael ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol rhwng mis Tachwedd 2013 i ganol
Chwefror 2014. Er mwyn gwneud cais, rhaid i’r ymgeiswyr fod yn grŵp pobl hŷn
lleol yng Nghymru. Weithgareddau y gellir eu hariannu yw:
• Cinio Nadolig neu bartïon Nadolig
• Dathliadau'r Flwyddyn Newydd
• Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieneaidd
• Teithiau i'r theatr neu bantomeim
• Tripiau siopa Nadolig
• Arall
Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth:
http://www.bavo.org.uk/documents/WinterWinterCelebrationGrantEligibilityandCriteriaFunding-Feb14.pdf
*******************************************************
Heddlu Gogledd Cymru - Arian ar gael i brosiectau
taclo trosedd
Mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr lleol drwy DET
(Deddf Elw Troseddau) ac arian gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gael i
gymunedau lleol ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau fydd yn helpu i daclo trosedd
a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym nawr yn derbyn ceisiadau am hyd
at £3.5mil fydd yn amodol ar bleidlais gyhoeddus.
Taflen
Wybodaeth
Datganiad i’r
Wasg
**************************************************
Trawsnewid Cyfleoedd Bywyd Plant Mewn Gofal
Cyhoeddiad Plant mewn Gofal
Astudiaeth Achos Spencer
*************************************
Bwrdd Cynghori Cenedlaethol i Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Gwahoddiad i fod ynghlwm:
(Dogfenau ar gael yn y Saesneg yn unig)
Glossary
Criteria
Information Sheet
Application Form
******************************************************
Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa £ 3 miliwn o grantiau
bach ar gyfer cymunedau tlotaf
Cliciwch
ar y linc isod am fwy o manylion:
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/welsh-government-launches-3m-small-6270
*******************************************************
Gŵyl Bwyd Môr Porthaethwy yn
llwyddiant ysgubol i fusnesau lleol gyda mwy na 9000 yn y digwyddiad cyntaf
Mae’n dilyn sefydlu grŵp gweithredu er mwyn
cefnogi busnesau pysgota yn yr ardal. Bydd Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol
(FLAG) yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy'r pysgodfeydd yng Ngogledd Cymru ac yn
rhoi hwb i ddiwydiannau’n ymwneud â’r môr.
Dywedodd Jane Davies, Rheolwr Prosiect ym Menter
Môn, mai bwriad yr ŵyl oedd codi ymwybyddiaeth pobl am “yr hyn sydd gennym yma
yn barod. Bydd menter FLAG yn gweithio ar brosiectau sy’n rhoi gwerth
ychwanegol ar ein cynnyrch lleol ac amlygu rôl flaenllaw'r cymunedau arfordirol
yn ein heconomi leol”.
Mae FLAG wedi’i drefnu fel
prosiect i gefnogi’r diwydiant pysgota a’r cymunedau sy’n gysylltiedig yn y
ddwy sir drwy ddarparu amrywiaeth o gamau gweithredu a gweithgareddau www.mentermon.com
***************************************************
Bwletin Ymgynghori Wythnosol WCVA
Cliciwch ar y linc isod am
fwy o wybodaeth, a mynediad i’r fwletin:
http://www.wcva.org.uk/what-we-do/policy-and-influence/consultations,-responses-and-briefings?seq.lang=cy-GB
**************************************************
Canolfan Adferiad
Cenedlaethol Hafal
Mae Tŷ Adferiad yn
darparu profiad unigryw a chyffrous i bobl sydd ag afiechyd meddwl a’u
gofalwyr.
Mae ein cyfnodau seibiant,“Cynllun
Bywyd”, dros dri diwrnod yn ymrymuso cleientiaid i:
·
Camu allan o’u harferion ac edrych yn wrthrychol ar
eu bywydau
·
Gosod amcanion o ran eu hadferiad
·
Trafod ac adolygu eu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
·
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sydd yn
ysgogi
·
Mwynhau gweithgareddau hamdden awyr agored mewn rhan
brydferth o’r wlad
·
Cwrdd â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr eraill er
mwyn
rhannu eu profiadau
·
Gwneud ffrindiau newydd, cael hwyl a chael
persbectif positif
ar eu bywydau.
Cliciwch yma
am fwy o wybodaeth
******************************************
20/09/13 Gronfa Gymunedol Peter’s Pies
Mae ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol yn cael
eu gwahodd i wneud cais am ddarn o “Slice of the Pie” - Gronfa Gymunedol Peter’s
Pies.
Gall fod yn anodd enill bywoliaeth wrth geisio codi arian ar gyfer
clybiau yn agos at eich calon, a dyna pam pobydd pastai hoff Cymru wedi addo gwneud
nifer rhoddion hyd at werth o £ 250 i haeddiannol grwpiau, timau chwaraeon ac
ysgolion.
Cliciwch ar y linc ganlynol am fwy o wybodaeth: http://www.petersfood.co.uk/whats-new/apply-for-your-slice-of-the-peters-pie-community-fund
*******************************************************
Cronfa Cadw Gymru'n Daclus
Gyda hydref rownd
y gornel hon yw'r amser perffaith
i grwpiau cymunedol wneud cais am gyllid oddi
wrth Cadwch Gymru'n Daclus.
Gall grwpiau wneud cais am £300 (uchafswm) werth o dalebau i helpu i dalu costau deunyddiau, offer,
cyfarpar diogelwch, planhigion
brodorol a llwyni. Gall unrhyw grŵp gwirfoddol neu gymunedol efo chyfansoddiad wneud cais.
Cliciwch yma am becyn
cais.
*****************************************************
Gwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Tybaco
21/11/13 Canolfan Mileniwm
Cymru, Bae Caerdydd
Bydd y digwyddiad yn edrych ar ba gamau y gellir eu cymryd yng Nghymru i annog cymunedau i ymgysylltu â rhoi'r gorau i ysmygu drwy chwaraeon ac yn edrych ar gyfleusterau chwaraeon yn
dod yn ddi-fwg. I fynychu'r
digwyddiad hwn anfonwch e-bost sue@ashwales.org.uk
Cliciwch yma am y Rhaglen
*********************************************************
NEWYDD
- Hyfforddiant a digwyddiadau WCVA Medi 2013 - Mawrth 2014
Cliciwch
yma i rhifyn Medi 2013 – Mawrth 2014
Rhaglen waith y Comisiynydd wrth ymwneud â’r trydydd sector yng Nghymru
Gweler isod datganiad i’r wasg
ynglŷn â chyhoeddiad rhaglen waith y Comisiynydd wrth ymwneud â’r trydydd
sector yng Nghymru: Datganiad
i’r wasg
********************************************************
Ymddiriedolaeth Cod Post - Cronfa Breuddwyd 2014
Mae’r Cronfa Breuddwyd eleni yn agored ar gyfer ceisiadau. Mae sefydliadau yn
cael tan 20 Medi i
gyflwyno crynodeb un tudalen yn amlinellu'r cynnig
ar gyfer eu prosiect 'Breuddwyd'.
Mae'r Gronfa Breuddwyd yn rhoi cyfle
i sefydliadau gyflwyno'r prosiectau maent
wedi breuddwydio am erioed, a byth wedi
cael y cyfle i ddod i fodolaeth.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
*******************************************************
Plant
mewn Angen
Mae Plant Mewn
Angen BBC Raglen Grantiau Bach ar gyfer ceisiadau o hyd at £ 10,000 ar gyfer 1 flwyddyn,
ac yn awyddus i hyrwyddo cyllid
hwn i mudiadau yng Nghymru.
Gallai Grant Bach
fod yn ffordd o gychwyn eich gwaith gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais 18 oed ac iau. Mae gennym 5 dyddiadau cau y flwyddyn, a byddwch
yn clywed y canlyniad eich
cais o fewn 8/9 wythnos.
Y dyddiadau cau yw 1 Medi, 1 Rhagfyr, 1
Chwefror, 1 Ebrill a 1 Mehefin. Ein rhaglenni Prif Grant yn dal ar
gael ar gyfer ceisiadau o dros
£ 10,000 hyd at 3 blynedd. Er mwyn cael mynediad ceisiadau i'r naill neu'r llall o'n cynlluniau grant ewch i'n
tudalen Grantiau ar www.bbc.co.uk / pudsey neu ffoniwch James neu Andrea
ar 029 2032 2383 i drafod eich syniad.
*********************************************************
Rhaglen
Hyfforddiant Cyfrano Cymru 2013-14
Cliciwch yma am
fwy o wybodaeth
*******************************************************
Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2014-2017
Cliciwch ar y linc isod am fwy o wybodaeth
http://wales.gov.uk/topics/equality/funding/equalities-inclusion-grant-2014-2017/?skip=1&lang=cy
********************************************************
Grŵp Gweithrediadau Busnes Ynys Môn / Gwynedd
Cliciwch yma i weld cofnodion y cyfarfod ddydd Mawrth 4ydd Mehefin 2013
**********************************************************
Ymgodymu â Throseddau Casineb: Fframwaith ar gyfer
Gweithredu - Fersiwn Ymgynghori
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar 'Ymgodymu a Throseddau
Casineb: Fframwaith ar gyfer Gweithredu'. Mae yna fersiwn Addas i Blant, a
fersiwn Hawdd ei Darllen o'r Fframwaith ar gael.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
**********************************************************
12/07/13
Mudiad Adfer Môn a Gwynedd
Amserlen
Gweithgareddau Wythnosol
*********************************************
Cyfarfod y Pwyllgor Cyswllt
11/07/13
I gael
mynediad at raglen a phapurau cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol i’w
gynnal dydd Iau, 11 Gorffennaf, 2013 cliciwch ar y linc isod:
http://democratiaeth.ynysmon.gov.uk/ieListDocumentsaspx?CId=472&MId=2336&Ver=4&LLL=1
************************************************
10/07/13
Datganiad Polisi Drafft Tirwedd Gwarchodedig
Cliciwch yma i’r ddogfen ymgynghori
(Ar gael yn y Saesneg yn unig)
***********************************************
05/07/2013
Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer Cyfleoedd
Dydd i Oedolion ag Anabledd Dysgu
Yn y dyfodol, fe all Cyngor Sir Ynys Môn
edrych i gomisiynu darparwr i ddarparu Cyfleoedd Ddydd gyda gwaith i oedolion
rhwng 18 - 65 oed gydag anabledd dysgu.
I
gofrestru eich diddordeb neu gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, ewch i’r wefan:
http://www.sell2wales.gov.uk/search/show/search_view.aspx?ID=JUL000524
*BWLETINAU MAWRTH 2013*
*BWLETIN 6 MAWRTH 2013*
Prosiect Bwmerang
Cliciwch yma am fwy o fanylion ar Bwmerang - prosiect cymunedol Môn FM - cyfle gwych i fod ynghlwm â radio.
************************
* BWLETINAU CHWEFROR 2013*
*BWLETINAU 28 CHWEFROR 2013*
Arfarniad Arian i Bawb
Mae Arian i Bawb yn ffynhonnell bwysig o arian i amrywiaeth o grwpiau cymunedol
a gwirfoddol. Mae eu profiad a'u safbwynt yn hanfodol i helpu BIG gwella ar sut
mae Arian i Bawb yn cael ei weithredu a'i defnyddio, ac i gynnig gwasannaeth
well i ymgeiswyr a deiliaid grantiau. Rydym yn edrych am adborth wrth ymgeiswyr
llwyddiannus a rhai aflwyddiannus.
Ceir gwybodaeth pellach am yr astudiaeth yma
a gallwch dod o hyd i'r arolwg ar-lein ei hun trwy dilyn y linc
https://BIG-arianibawb-arolwg-2013.questionpro.com.
************************
Cronfa Dreftadaeth y Loteri - Gwreiddiau Ifanc - lansio rhaglen grant newydd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar y rhaglen grant newydd.
***
**************************
Go Dad Run - Lansiad Digwyddiad Elusennol
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar lansiad digwyddiad elusennol i'w gynnal dydd Sadwrn, 27 Ebrill 2013 yng nghwmni Colin Jackson, CBE.
***************************
Atodiad Cenedlaethol WCVA - Chwefror 2013
Cliciwch yma i ddarllen rhifyn Chwefror 2013 o Atodiad Cenedlaethol WCVA.
**************************
Cylchlythyr Uned Datblygu Economaidd
Cliciwch yma i ddarllen y Cylchlythyr diweddaraf.
***************************
*BWLETIN 27 CHWEFROR 2013*
Dyddiau Gwybodaeth a Dethol i Wirfoddolwyr 2013
A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Wirfoddolwr i'r Groes Goch? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
***************************
*BWLETINAU 18 CHWEFROR 2013*
Manylion am Gronfa Cymorth Personol Llywodraeth Cymru
Cliciwch yma i ddarllen llythyr gan Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn amlinellu'r trefniadau
newydd ar gyfer y Cronfa Cymorth
Personol yng Nghymru.
Bydd y gronfa hon yn disodli'r elfennau dewisol y Gronfa Cymdeithasol
, o 2ail Ebrill 2013.
*********************************
*BWLETIN 14 CHWEFROR 2013*
Tyfu'r Dyfodol
MaeTyfu'r Dyfodol (Growing The Future) yn brosiect peilot newydd a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig o dan y Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth tan fis Ionawr 2015. Cliciwch yma am fanylion pellach.
*********************************
*BWLETINAU 5 CHWEFROR 2013*
Diwrnod Trwyn Coch Diwrnod Arian Cymunedol Gogledd Cymru
Mae grantiau o rhwng £500 a £1,000 ar gael i grwpiau cymunedol sy'n gweithio yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Wrecsam, Gwynedd neu Ynys Môn.
Bydd y Grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith lle ceir tystiolaeth glir o effaith fuddiol ar fywydau pobl sy'n cael eu heithrio neu dan anfantais drwy incwm isel, ynysu gwledig neu gymdeithasol, oedran, anableddau, hil, rhywioldeb neu ryw.
Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau bach, yn lleol neu sefydliadau mewn ardaloedd dan anfantais sydd â dealltwriaeth glir o anghenion eu cymuned ac yn ymgymryd â chamau gweithredu fel modd o fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Cysylltwch â Sefydliad ar 02920 536590 neu anfonwch e-bost: mail@cfiw.org.uk am becyn cais.
Gofal Croesffyrdd Gwasanaeth Agor Aelwyd
Ydych chi'n gofalu am rywun gyda Dementia neu Alzheimers? Gallwn gynnig egwyl o 5 awr yn RHAD AC AM DDIM bob wythnos (uchafswm o 12 wythnos). Mae cyfleoedd ar gael nawr ar Ynys Môn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
*****************************************
* BWLETIN 28 IONAWR 2013*
Yng nghyfarfod cyhoeddus diwethaf y Comisiwn Elusennau, gofynnwyd i bobl drafod
y gwahanol ffyrdd y gall elusennau ddangos eu bod yn cael eu rheoli yn dda.
Roedd hyn yn dilyn ymlaen o'n hadroddiad Cyrraedd y Safon a rhoddodd sylw i
lywodraethu elusennau yng Nghymru.
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r
ymddiriedolwyr a fu'n cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp bywiog ac rwy'n falch o
amgáu dolen i'r adroddiad o’r cyfarfod cyhoeddus Barn ymddiriedolwyr ar ddangos
dulliau llywodraethu da. Cliciwch ar y cyswllt isod i weld y ddogfen ar ein
gwefan.
Mae'r adroddiad yma yn crynhoi pam
ei bod yn bwysig dangos bod elusennau yn cael eu rheoli yn dda, sut y gall
elusennau wneud hyn a pha rwystrau y maent yn eu hwynebu. Mae'r adroddiad
diweddaraf hwn yn rhan o'n menter barhaus i hyrwyddo pwysigrwydd llywodraethu
elusennau yn effeithiol.
Os nad ydych eisoes wedi cael cyfle, efallai yr
hoffech hefyd ddarllen Cyrraedd y Safon, sy'n cynnwys canlyniadau ein harolwg
llywodraethu cyntaf o elusennau yng Nghymru:
*********************************************
* BWLETIN 23 IONAWR 2013*
Taflen - Cael y gorau o'ch meddyg teulu (GP)
Mae Diverse Cymru wedi cynhyrchu taflen i unrhyw un sy'n mynd at eu meddyg teulu sydd â materion iechyd meddwl, mae'n darparu rhai awgrymiadau a chyngorion i wneud yr ymweliad yn haws i'r claf ond hefyd mae'n ddefnydiol i'r GP. Cliciwch yma i ddarllen y daflen.
***********************************************
* BWLETIN 22 IONAWR 2013*
Newyddion Ymddiriedolwyr - Ionawr 2013
Cliciwch yma i ddarllen rhifyn Ionawr o Newyddion Ymddiriedolwyr.
*************************************************
*BWLETIN 3 IONAWR 2013*
Gwiriadau trosglwyddadwy am ddim i wirfoddolwyr
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth diweddaru newydd ar gael yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr. O’r gwanwyn hwn ymlaen ni fydd rhaid i unigolion wneud cais am wiriad cofnod troseddol newydd bob tro maent yn ymgeisio am rôl neu swydd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
***************************************************
*BWLETINAU 2 IONAWR 2013*
E-fwletin pwysau iach
Cliciwch yma i ddarllen e-fwletin cyntaf Pwysau Iach, sy’n rhoi crynhoad o beth o’r
gwaith sy’n cael ei fwrw ymlaen i gynorthwyo’r maes blaenoriaethol pwysau iach.
Fe’i paratowyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Tîm Dieteg, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr.
****************************************************
Safbwyntiau am blismona yng Ngogledd Cymru - galwad am dystiolaeth gan Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gynorthwyo i greu Cynllun Heddlu a Throsedd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
****************************************************
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cael ei gyflwyno i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ac yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1. I baratoi ar gyfer hyn, gweler y
llythyr yma gan Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol.