Cydbwyllgor Cynghori ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE)
Prif ddiben dynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw diogelu a hyrwyddo harddwch naturiol yr adral honno. Wrth weithredu'r prif ddiben hwnnw, dylidrhoi ystyriaeth i anghenion amaethyddiaeth, coedwigaeth a diwydiannau gwledig eraill ac anghenion economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol. Dylid rhoi sylw arbennig i hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu cymdeithasol ac economaidd sydd ynddynt eu hunain yn diogelu a hyrwyddo'r amgylchedd.
Mae AoHNE yn ddynodiad statudol. Mae'r fframwaith cyfredinol ar gyfer AoHNE yn cael ei sefydlu yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hamliau Tramwy 2000.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn
ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electronig ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.