Cyfleoedd Hyfforddiant
Anelir i ddarparu rhaglen o hyfforddiant addas sy’n effeithio ar anghenion y sector gwirfoddol / cymunedol ar Ynys Môn mewn perthynas â chost a safon
Rydym yn ystyried amrywiaeth eang o anghenion hyfforddiant pobl efo dyheadau gwahanol a rhaglen amrywiol gynhwysfawr fydd yn cynorthwyo rheolwyr /datblygiad staff /a hyfforddiant gwirfoddolwyr ar lefel leol
Anelir i leoli'r cyrsiau ar hyd a lled yr ynys, rydym yn hapus os yw’r angen yn codi i gynnal cyfres o sesiynau min nos, neu hyfforddiant penodol o’ch dewis chi yn amodol ar nifer penodedig yn presenoli
Cysylltwch â: Derlwyn Hughes ar 01248 724944 am sgwrs anffurfiol.
Cyrsiau Cymunedol Cymru
Mae Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru yn rhaglen genedlaethol newydd o hyfforddiant fforddiadwy ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng cynghorau gwirfoddol sirol, canolfannau gwirfoddolwyr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae’r rhaglen yn cynnwys 54 o gyrsiau hyfforddi ac yn anelu at gynnwys popeth ynghylch rhedeg grŵp gwirfoddol neu gymunedol - o wybodaeth ynghylch sut i droi eich syniadau’n brosiect, i ganfod ffynonellau ariannu, cyflogi pobl, rheoli eich arian a hyrwyddo’ch prosiect.
Mae’r hyfforddiant hwn a luniwyd yn bwrpasol ar gyfer y sector gwirfoddol ar gael am £20* y person neu lai - sy’n golygu ei fod o fewn cyrraedd grwpiau gwirfoddol bach a mawr fel ei gilydd.
Bydd pob un o’r 54 cwrs yn rhedeg o leiaf unwaith ym mhob un o saith rhanbarth Cymru. I archebu lle ar un o ddigwyddiadau hyfforddi Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru, cysylltwch â Derlwyn Hughes, Swyddog Gwybodaeth ar 01248 724944.
Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod rhaglen hyfforddiant Medrwn Môn:
http://www.cyrsiauigymunedau.org.uk/