Y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Mae pob awdurdod lleol dan ddyletswydd statudol i gyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc (CPaPhI) sy'n nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.
Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o adrannau amrywiol y cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol betsi cadwaladr, Cymunedau yn Gyntaf, Heddlu Gogledd Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Urdd Gobaith Cymru, Barnardos, NSPCC a Medrwn Môn.
Mae gweithgareddau y Partneriaeth yn cynnwys edrych ar bynciau amrywiol o dan is-grwpiau gwahanol, megis: Rhianta a Gofal Plant; Cartrefi a Chymunedau Iach; Addysg, Hyfforddiant a Dysgu; a Chwarae, Hamdden a Diwylliant.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld copi o Cynllun Plant a Phobl Ifanc Ynys Môn 2008-2011.
******************************
Cyfarfod Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Grŵp Strategol
I ddarllen cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 1 Chwefror 2012 cliciwch yma.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn
ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electronig ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.