Ymgynghori a'ch Barn
Ar y dudalen hon cynhwysir gwahanol bapurau a dogfennau sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy broses ymgynghori gyda chymunedau a sefydliadau er mwyn cael barn a syniadau pobl am y gwasanaethau arfaethedig neu newidiadau a allai effeithio arnynt.
Tarwch olwg drwy'r dogfennau hyn ac ymateb iddynt gydag unrhyw syniadau sydd gennych.
Mae ymgynghori effeithiol a realistig gyda phobl a sefydliadau yn hanfodol er mwyn datblygu a darparu gwelliannau a gwasanaethau o werth bydd yn gallu helpu unigolion a chymunedau.
*************************************************************************
*05/06/2013*
Darpariaeth
Gwasanaethau i Gleifion Mewnol i Oedolion efo Anhwylderau Bwyta
Cliciwch yma
i’r Asesiad Opsiwn
Cliciwch yma
i’r Ffurflen Ymgynghoriad
16/05/13
YMGYNHORIAD
CYHOEDDUS - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD
·
Crynodeb o’r Hoff
Strategaeth
·
Rhybudd Swyddogol
·
Rhestr Dogfennau
Cefnogol
·
Newyddlen
Ymgynghoriad ar hyn o bryd
Ymgynghoriad: Cwrdd
â'r Heriau Y Gyllideb
2013-2014
Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau
clywed eich barn ar y cynigion gwella/y gyllideb sy'n wynebu'r Cyngor a'r
opsiynau sy'n cael eu cynnig, er mwyn siapio'r cynigion terfynol ar gyfer y
gyllideb.
Cliciwch yma i ddarllen sut i ymateb i'r ymgynghoriad.
Gwerthfawrogwn dderbyn eich barn
erbyn 4 Chwefror, 2013. Ceir gwybodaeth yn y pecyn amgaeedig ar sut i ymateb i'r
ymgynghoriad.
**********************************************************************
Ymgynghoriad ar y Bil Datblygu Cynaliadwy - yn helpu i siapio gwell dyfodol i Gymru.
Cliciwch yma i ddarllen y papur briffio.
*****************************************************************************
Cais am Dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru – Cymorth ardrethi busnes ar gael i elusennau
Cytunodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn ddiweddar i gynnal cais byr am dystiolaeth ar y cymorth ardrethi busnes sydd ar gael i elusennau. Yn rhan o hyn, ceisir hefyd am farn ynghylch a ellid defnyddio cymorth yn ystyrlon i gefnogi mentrau cymdeithasol ac undebau credyd ymhellach.
Bydd eich barn yn helpu i hysbysu’r ymateb a roddir i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymatebion yw dydd Mercher 19 Rhagfyr 2012. Ceir manylion ynghylch sut y gallwch ymateb ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk
********************************************************************************************
Ymgynghori ar gynigion Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
Cliciwch yma i ddarllen am yr ymgynghoriad sy'n cau ar 14 Ionawr 2013. Mae WCVA yn bwriadu cyflwyno ymateb ac yn croesawu mewnbwn gan fudiadau'r trydydd sector. Os hoffech gyfrannu i'r ymateb, anfonwch ymatebion at WCVA dim hwyrach na 17 Rhagfyr 2012, i roi digon o amser i ddiweddaru eu hymateb.
**********************************************************************************************
Ymgynghoriad cam 3 Strategaeth Pobl Hŷn
Cliciwch yma i ddarllen crynodeb o'r ymgynghoriad a gellir llawrlwytho'r ddogfen ymgynghori yma. Bydd cyfnod yr
ymgynghoriad yn dod i ben ar y 17eg o Ionawr 2013.
**********************************************************************************************
'Ein
Hynys - Ein Dyfodol' (Cynllun Integredig Sengl Ynys
Môn)
Cliciwch yma i ddarllen drafft ymgynghorol o Gynllun Integredig Sengl
Ynys Môn. Mae'r cyfnod ymgynghori o 26/11/12 hyd at 18/1/13 a gwerthfawrogir unrhyw sylwadau gennych.
*********************************************************************************************
Ymgynghoriad ar drefniadau'r dyfodol ar gyfer Cydraddoldeb Cynnwys a Rhaglen Grantiau Hawliau Dynol 2013 - 2016, Llywodraeth Cymru.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth (yn y Saesneg) a chliciwch yma i lawrlwytho ffurflen archebu ar gyfer y digwyddiadau.
********************************************************************************************
Ymgynghoriad ar Wasanaethau Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru
Mae holiadur ymgynghoriad ar wasanaethau gofal iechyd yng Ngogledd Cymru yn rhoi cyfle i chi ddarparu eich barn am gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer newidiadau i ofal iechyd.
Mae’n hynod bwysig i chi ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae copiau caled o’r holiadur ymgynghoriad a’r ddogfen ymgynghori ‘Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid’ ar gael o Medrwn Môn. Hefyd, mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar-lein ac mae fersiwn ar-lein o’r holiadur ar gael o: www.trafodaethbetsi.wales.nhs.uk
Dylai pob holiadur wedi’i gwblhau gael eu dychwelyd erbyn 28ain Hydref 2012.
***********************************************************************
Llythyr gan Mary Burrows sy'n rhoi diweddariad ar y broses ymgynghori 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid'.
Cliciwch yma i ddarllen y llythyr ymateb i adborth yr ymgynghoriad.
***********************************************************************
Dweud eich barn ar newidiadau arfaethedig i Anghenion Addysgol Arbenning yng Nhgymru
Er mwyn helpu rhieni i ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, mae SNAP Cymru ynghyd ag AFASIC Cymru yn cynnal cyfres o ymgynghoriadau ar gyfer rhieni / gofalwyr a phartion â diddordeb. Bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio ar bob plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen archrebu.
***********************************************************************
Ymgynghoriad Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP)
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP) wedi mynd drwy adolygiad mewnol, ac nawr mewn cyfnod ymgynghoriada. Cliciwch yma i gael mynediad i'r ymgynghoriad.
***********************************************************************
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori ar hyrwyddo democratiaeth leol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am ymatebion ar gynnwys arfaethedig Bil Democrataeth Leol (Cymru) ynghyd â chynigion eraill i wneud gwelliannau i ddemocrataeth leol. Gallwch weld y ddogfen yma.
************************************************************************
Ymgynghoriad ar Ddigwyddiadau i Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
Cliciwch yma i ddarllen yr ymgynghoriad. Gwahoddir safbwyntiau ar y cynigion yn y ddogfen ymgynghori erbyn 19 Hydref 2012.
***************************************************************************
Ymgynghoriad - Safonau mewn perthynas â'r Gymraeg: Beth yw'ch barn?
Cliciwch yma i ddarllen yr ymgynghoriad. Dyddiad cau ymateb i'r ymgynghoriad - 11 Awst 2012.
****************************************************************************
Gwahoddiad i Ddigwyddiad Ymgynghori ynghylch y Bil Datblygu Cynaliadwy
Cliciwch yma am wybodaeth ar wahoddiad i ddigwyddiad ymgynghori ynghylch y Bil Datblygu Cynaliadwy
****************************************************************************
Ymateb drafft i ymgynghoriad ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)
Cliciwch yma i ddarllen ymateb drafft ar ymgynghoriad ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) (yn y Saesneg)
***************************************************************************
Ymgynghoriad ar Raglen Cefnogi Pobl
Gwasanaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol yng Ngogledd Cymru
Cliciwch yma i ddarllen am ddigwyddiadau i ddefnyddwyr gwasanaeth gael rhoi eu barn ar wasanaethau posibl yn y dyfodol.
*******************************************************************************
Ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn ar gynigion cyllidol 2012-2013 a'r Cynllun Busnes Corfforaethol drafft 2012 - 2015
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen sy'n sail i ymgynghoriad cyhoeddus y Cyngor ar gynigion cyllidol 2012 - 2013.
Cliciwch yma i lawrlwytho Cynllun Busnes Corfforaethol y Cyngor 2012-2015.
I ddarllen llythyr at y Rhanddeilwyr cliciwch yma.
*******************************************************************************
Adnoddau Naturiol Cymru – Trefniadau Arfaethedig ar gyfer Sefydlu a Chyfarwyddo Corff Newydd i Reoli Adnoddau Naturiol Cymru
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
*******************************************************************************
Ymgynghoriad - Mwy na geiriau - Fframwaith Strategol
Cliciwch yma i weld mwy na geiriau …. Fframwaith Strategol i Wasanaethau Iechyd yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Fframwaith Strategol dogfen ymgynghoriad sy'n gorffen 30 Ebrill 2012.
******************************************************************************
Dogfen Ymgynghori Diwygio'r PAC
Cliciwch yma i weld dogfen ymgynghori diwygio'r PAC: Sgwrs am y ffordd ymlaen yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
********************************************************************************
Gwahoddiad i Ddigwyddiad Ymgynghori Trydydd Sector
Plant yng Nghymru - digwyddiadau AM DDIM
Cliciwch yma am wybodaeth am ddigwyddiadau am ddim yng Nghymru.
I lawrlwytho ffurflen archebu cliciwch yma.
*********************************************************************************
Mae Ynni Cymunedol Cymru (CEW) yn bwriadu dod â’r nifer cynyddol o gynlluniau ynni cymunedol ledled Cymru at ei gilydd i ffurfio un llais unedig ar gyfer y sector hwn.
Mae Cynnal Cymru ynghyd â'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, nawr yn gwahodd pob sefydliad ac unigolyn sy’n rhan o gynlluniau ynni cymunedol a’r rheiny sy’n cefnogi eu nodau i helpu ffurfio strwythur a swyddogaeth y corff newydd hwn sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddiwedd 2011, a dylid cyflwyno sylwadau i cew@cynnalcymru.com.
Am wybodaeth bellach, ewch i CynnalCymru.com
*******************************************************************************
Bwletin Ymgynghori wythnosol WCVA 9/12/11
Cliciwch yma i weld y Bwletin Ymgynghori diweddaraf.
*******************************************************************************
Lansiad y Cyfnod Ymgynghori ar yr Adolygiad o’r Ystâd
Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol o sut mae ein 49 gorsaf heddlu ac adeiladau eraill yn gweithredu ac yn cael eu defnyddio gan y cyhoedd, mae’r Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau tymor hir ar gyfer yr ystâd.
Bydd yr ymgynghoriad ar y strategaeth yn rhedeg tan y 1af o Chwefror. Anfonwch eich safbwyntiau at consultation@north-wales.police.uk neu ysgrifennwch at Ymgynghoriad Drafft yr Ystâd, Glan y Don, Bae Colwyn, Conwy. LL29 8AW. Bydd y manylion llawn ar gael ar wefannau Awdurdod yr Heddlu http://www.nwalespa.org a’r Heddlu http://www.north-wales.police.uk
********************************************************************************
Sustem optio-allan ar gyfer Rhoi Organau - beth ydych chi’n credu? Cael dweud eich dweud mewn digwyddiad sy’n lleol i chi!
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymdrechu’n barhaus i gynyddu nifer y rhoddwyr organau. Yn ogystal â pharhau i weithredu argymhellion Tasglu Rhoi Organau y DU, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil Rhoi Organau.
Byddai’r Bil Rhoi Organau yn creu system o optio allan o roi organau. Mae hyn yn golygu y bydd organau a meinweoedd unigolyn ar gael i’w rhoi ar ôl iddo farw oni fydd wedi mynegi gwrthwynebiad i hynny. Mae’r ymgynghoriad Papur Gwyn yn gofyn am ymatebion i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd.
Ar 8fed Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Llywodraeth Papur Gwyn oedd yn amlinellu’r amserlen ar gyfer cyflwyno system optio allan. Caiff Bil ei gyflwyno yn 2012, gallai’r ddeddfwriaeth fod y ei lle erbyn 2013 a gallai system feddal o optio allan gael ei chyflwyno yn 2015. Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar sut y byddai’r system yn gweithio gan gynnwys:
· dim ond pobl sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sy’n byw ac yn marw yng Nghymru fyddai’n cael eu cynnwys o dan y system;
· byddai’n rhaid i unigolion fod wedi byw yng Nghymru am gyfnod digonol cyn cael eu cynnwys mewn system optio allan - mae’r Papur Gwyn yn gwahodd pobl i roi eu barn ar ba mor hir y dylai’r cyfnod hwnnw fod;
· cynnig pedwar opsiwn ynghylch sut y gellid cofnodi dymuniadau pobl ynglŷn â rhoi eu horganau - gan gynnwys cadw cofrestr o’r rheini sydd wedi gwrthwynebu a’r rhai nad ydynt wedi gwrthwynebu, neu beidio cadw cofrestr o’r rhai sydd wedi gwrthwynebu.
Mae manylion ar y cynigion (yn cynnwys y papur eu hunan) ar gael o wefan Rhoddi Organau ar http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/organ/?lang=cy
Mae Llywodraeth Cymru yn awchus i weithio’n agos gyda’r cyhoedd er mwyn clywed ei barnau ar y pwnc pwysig hwn. Ar ran y Llywodraeth, mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru wedi trefnu digwyddiad ar 8 Rhagfyr 2011 yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Heol Ffriddoedd, Bangor. LL527 2TR rhwng 5.30pm – 7pm.
Os hoffech fynychu’r digwyddiad ymgynghori, cysylltwch â Swyddfa’r Bwrdd Bicau yng Nghymru ar 0845 644 7814 neu enquiries@waleschc.org.uk
Y Cynllun Plant
Rhywbeth y mae rhaid i Lywodraeth Cymru ei gynhyrchu o dan Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yw'r Cynllun Plant. Mae'n disgrifio beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod nhw yn rhoi sylw i hawliau plant nawr ac yn y dyfodol.
I gael dweud eich dweud cliciwch yma.
*****************************************************************************
Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd y Cyngor
Mae gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru ddiddordeb clywed barn unigolion, grwpiau a mudiadau ar y testun deiseb i ffilmio a recordio cyfarfodydd y Cyngor.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
***************************************************************************
Manylion Gwariant Awdurdod Lleol dros £500
Mae gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru ddiddordeb clywed barn unigolion, grwpiau a mudiadau ar y testun deiseb i ffilmio a recordio cyfarfodydd y Cyngor ynglyn â Gwariant Awdurdod Lleol dros £500.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
****************************************************************************
Ymgynghoriad Cyngor: Ein Hynys, Ein Cyngor, Eich Cyfraniad
“Rydym yn estyn gwahoddiad i chi leisio eich barn am eich blaenoriaethau i wella ein Ynys a’n Cyngor i’r dyfodol. Mae eich barn yn hynod o bwysig i ni.
Rydych yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sydd arnom yn ystod y blynyddoedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu a chynllunio gwasanaethau’n ofalus. Gallwn weithio ar y cyd i gyflawni hyn yn llwyddiannus.
Byddwn yn ymweld â lleoliadau gwahanol ar yr Ynys ac yn canolbwyntio ar y meysydd isod.”
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt.
****************************************************************************
* Ymgynghoriad Cronfeydd Strwythurol Ewrop ôl 2013
Llawrlwythwch y ddogfen Briff pdf yma am fwy o wybodaeth.
****************************************************************************
* Ymgynghoriad Arolygaeth Gofal & Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cyfranogaeth Cymru yn helpu Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i ymgysylltu’n effeithiol gyda’i rhanddeiliaid yn ystod y chwe mis nesaf er mwyn cael eu sylwadau ar wasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol maen nhw wedi derbyn a hefyd perfformiad AGGCC yn ystod 2010-11.
Rydym yn edrych i redeg grwpiau ffocws gyda grwpiau yng Ngogledd Cymru dros y mis nesaf. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw grŵp fyddai â diddordeb cysylltwch â Mandy Williams ar 029 2043 1725 neu awilliams@wcva.org.uk.
****************************************************************************
* Cymunedau yn Gyntaf – Y Dyfodol
Ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 05/07/2011 - Diwedd y cyfnod ymgynghori: 26/09/2011
O fis Ebrill 2012, bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn newid i fod yn Raglen sy'n canolbwyntio ar y Gymuned a bydd yn cefnogi agenda Gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth a cyfle i gyflwyno eich sylwadau.
****************************************************************************
* Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ar Wasanaethau Dwyieithog y Cynulliad.
Ar 3 Awst, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, lansiodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft.
Mae’r Bil a’r Cynllun yn rhan o uchelgais y Cynulliad i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu’n ddwyieithog gyda’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y cyhoedd i ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy fynd i’w wefan, lle ceir manylion llawn y Bil a’r Cynllun. Gellir e-bostio’r ymatebion i bilingualservices@wales.gov.uk. Rhaid derbyn yr ymatebion erbyn 14 Hydref.
*****************************************************************************
* Cytundeb Iechyd Gogledd Cymru a'r Trydydd Sector
"Cyd-weithio'n lleol ar gyfer iechyd a lles bobl Gogledd Cymru"
Mae’r egwyddorion yn y Cytundeb hwn yn fframwaith ar gyfer cyd-weithio mwy effeithiol tuag at nodau cyffredin er lles unigolion a chymunedau yn y boblogaeth leol ar hyd a lled Gogledd Cymru. Y nod yn gyffredinol ydy gwella iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.
Gweler dogfen pdf Cytundeb Iechyd Gogledd Cymru a'r Trydydd Sector am fwy o wybodaeth.
Anfonwch unrhyw sylwadau yn ôl atom yn Medrwn Môn drwy e-bost i post@medrwnmon.org erbyn 30 Hydref 2011