Ynglyn â ni
Ein Datganiad o Fwriad
Nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, mudiadau gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potensial yr Ynys.
Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol.
Mae Medrwn Môn yn darparu:
- cefnogaeth a chyngor drwy ddarparu gwybodaeth gyfredol,
- cyngor cyllido,
- cyngor ymarferol (gan gynnwys deddfwriaeth a rheolaeth),
- cyfleoedd hyfforddiant,
- asiantaeth gwirfoddoli.
Mae Medrwn Môn yn rhoi cymorth i gymunedau i:
- adnabod bylchau mewn darpariaeth a gwrdd drwy’r sector gwirfoddol a chymunedol
- datblygu mentrau lleol a phrosiectau
- sefydlu mentrau newydd
Mae Medrwn Môn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli’r sector gwirfoddol a chymunedol drwy fynegi barn y sector i bartneriaethau, llywodraeth leol a chyrff statudol, ac felly sicrhau fod barn y sector yn cael ei glywed.
Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill a thrwy ymateb yn bositif a dychmygus, bwriadwn gryfhau a rhoi grym i gymunedau drwy Ynys Môn.
Top tudalen